Bob Crow | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mehefin 1961 Epping |
Bu farw | 11 Mawrth 2014 Whipps Cross |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | undebwr llafur, gweithwr rheilffordd |
Swydd | ysgrifennydd cyffredinol |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Lafur Sosialaidd, Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, Plaid Gomiwnyddol Prydain |
Undebwr llafur o Loegr oedd Robert "Bob" Crow (13 Mehefin 1961 – 11 Mawrth 2014) oedd yn arweinydd Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, y Môr a Thrafnidiaeth (RMT) o 2002 hyd ei farwolaeth. Yn y cyfnod hwnnw tyfodd aelodaeth yr RMT o 57,000 i 80,000.[1]
Roedd yn ystyried ei hunan yn "gomiwnydd/sosialydd"[2] ac roedd yn weriniaethwr ac yn gwrthwynebu'r Undeb Ewropeaidd.[3] Crow oedd yr arweinydd undeb llafur cyntaf i annerch cynhadledd Plaid Cymru, a hynny yn 2003.[4]